Aeth heibio'r gauaf chwerw du,
Y 'storom oer a'r gwlaw;
Ac fe gyfododd hyfryd haul
Efengyl bur gerllaw.
Fe wnaeth ei babell yn ein plith,
A'i bresennoldeb sy
Yn troi pob cystudd chwerw loes,
Yn hyfryd hedd i ni.
Fe welwyd blodeu ar y ddae'r,
Grasusau pur y nef;
Oll yn arogli'n beraidd iawn
Oddiwrth ei wisgoedd Ef.
O hyfryd dawel nefol hin!
Mi glywa'r adar mān,
'Nawr yn ymbyncio'n felus iawn
Y waredigol gān.
Mae turtur yr Efengyl fwyn
Yn galw bro a bryn;
Doed torf aneirif
tua'r wlad
Gyda'r awelon hyn.
Mae'r haul yn ddysglaer yn y nef
Cyfiawnder dwyfol ddyn;
Ac mae'n tywynu'n hyfryd iawn
Ar bob drylliedig un.
Mae blodau'n tarddu ar y llawr
Tonau [MC 8686]: gwelir: Mae'r Haul yn ddysglaer yn y nef |
The bitter, black winter has passed,
The cold storm and the rain;
And a pleasant sun of a pure gospel
Has risen at hand.
He made his tent among us,
And his presence is
Turning every affliction of bitter pangs,
Into delightful peace for us.
Flowers are seen on the earth,
The pure graces of heaven;
All smelling very sweetly
From His garments.
O pleasant quiet heavenly weather!
I hear the small birds,
Now disputing very sweetly
The deliverance song.
The turtledove of the gentle Gospel
Is calling vale and hill;
Let an innumerable throng
come towards the land
With these breezes.
The sun is brilliant in heaven
Righteousness of a divine man;
And it is shining very pleasantly
On every shattered one.
Flowers are springing up on the ground 2013,19 Richard B Gillion |
|